Dyma enghreifftiau o waith diweddar ar gyfer busnesau... boed yn luniau deunydd marchnata lliwgar a thrawiadol neu'n lluniau gwefan.

 Fel y gwelwch, mae unrhyw beth yn bosib i'ch busnes chi.... Cysylltwch i drafod! 

 

 

 

 

"Gwasanaeth proffesiynol o'r safon uchaf gan ffotograffydd sy'n deall pwysigrwydd manylder... Pleser oedd gweithio ar y prosiect gyda Ceri Llwyd; pleser oedd gweld y lluniau gorffenedig a phleser fyddai gofyn iddi am ei gwasanaeth eto yn y dyfodol"  Eleanor ac Iwan Davies, Welsh Luing Beef
 
 
"Cawsom brynhawn hawddgar a bythgofiadwy yn tynnu lluniau Telynau Tandderwen ar gyfer ein portffolio. Mae gwaith Ceri'n un creadigol ac mae'n amlwg yn ddawnus dros ben..."  Hefina Williams, Telynau Tandderwen
 
 
"Mae cael lluniau wedi eu tynnu'n broffesiynol gan Ceri wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r ffordd dwi'n gallu marchnata Cae Llwyd,; mae hi wedi llwyddo i gael naws y lle drosodd yn berffaith- buddsoddiad gwerthfawr iawn i unrhyw fusnes gan fod llun da yn dweud lot mwy na geirie....."    Llinos Owen, Bwthyn Gwyliau Cae Llwyd 
 
 
"Diolch eto Ceri am dy waith proffesiynol, braf ydi cael Cymraes i drafod y gwaith a hynny'n naturiol a hamddenol ..."  Rhian a Rhian, Siwgr a Sbeis, Llanrwst
 
"Rwyf yn ddiolchgar tu hwnt i ti Ceri am dy luniau gwych o'r Cytiau Bugail.....mae 'ngwefan i yn edrych yn llawer mwy cyfoethog a phroffesiynol ar ôl cynnwys dy luniau di ynddi. Pob llwyddiant i ti i'r dyfodol"  Menna Williams, Siabod Huts, Nebo